Rachel Owen

Pictures

Video

RASUS GAEAF TRAC MÔN,
Rhagfyr 4ydd, 2005

 

Mae tymor rasio fel arfer yn dod i ben ym mis Hydref, felly roedd Rachel Owen wrth ei bodd bod Trac Mon yn trefnu diwrnod o rasio ym mis Rhagfyr. Roedd bron i ddau fis wedi mynd mynd heibio ers ras olaf Rachel yn Sialens John Cooper 2005 ar drac byd enwog Silverstone, ac felly roedd hyn yn gyfle gwych i fynd amdani eto yn mini rasio Uned 5!

Dyma’r ail flwyddyn yn olynnol i ddiwrnod o “rasio gaeaf” gael ei drefnu ar Drac Mon, ac roedd hi’n ddiwrnod poblogaidd iawn yn y calender rasio, gyda 118 car yn cystadlu.

57 CAR SALWN

30 CATERHAM

22 FORMULA FORD

9 CAR UN SEDD

Ac yn ei plith wrth gwrs, mini rasio Uned 5!

 Roedd hi am fod yn ddiwrnod prysur iawn i Rachel a gweddill y gyrrwyr, oherwydd roedd 3 ras wedi eu trefnu ar gyfer pob un dosbarth gwahanol o geir. Ond cyn dechre ar y rasio, roedd rhaid cymeryd rhan yn y sesiwn ragbrofol. Pwrpas y sesiwn yma yw trio cael yr amser cyflymaf bosibl er mwyn sichrau y safle uchaf bosibl ar y grid ar ddechrau’r ras.

Gan bod Rachel yn ymafer ei sgiliau rasio ar drac Mon ac yn hyfforddi gyrrwyr eraill yno hefyd, mae’n gyfarwydd iawn gyda’r trac ac felly roedd hi’n gobeithio am ganlyniad da iawn heddiw ac yn eithaf hyderus. Ac fe gafwyd canlyniad gwych! Rachel oedd y trydydd car cyflymaf yn ystod y sesiwn ragbrofol, oedd yn golygu bod hi’n safle rhif 3 ar y grid (allan o 29) ar ddechrau pob ras (ei safle ucha ar y grid mewn ras erioed). Roedd pethau’n argoeli’n dda.

RAS 1 (11.40 yb)
Ffwrdd a hi yn mini rasio Uned 5 ar gyfer ras gynta’r diwrnod. Rachel yn gwneud yn dda i osgoi car rhif 24 ar y gornel gyntaf, ac yn gwneud yn fawr o’r cyfle i’w basio. Roedd hi’n ras agos iawn rhwng Rachel yn mini rasio Uned 5 a Matt Orford yn y Peugot glas (car rhif 24). Yn anffodus, colli ei safle ar y lap olaf a gorffen y ras yn safle rhif 3, â dim ond 2000fed o eiliad yn gwahanu y mini rasio a’r Peugot glas.

RAS 2 (1.50 yh)
Dwy awr yn ddiweddarach, roedd Rachel a mini rasio uned 5 yn ol ar y trac, ond fe lithrodd y mini ar y gornel gyntaf, a chael ei bwrw gan gar arall. Bu rhaid stopio’r ras ac ail ddechrau. Yn lwcus, roedd Rachel yn iawn, ac er gwaetha’r golwg ar y mini rasio, llwyddodd i orffen y ras yn bedwerydd.
 

RAS 3 (3.50 yh) Ras ola’r dydd, ac erbyn hyn roedd hi’n dywyll ac yn glawio. Rachel wedi blino, ond dal yn gwneud yn dda iawn, ac yn gorffen y ras yma yn drydydd.

Felly canlyniadau gwych i Rachel yn y 3 ras, ac ar ddiwedd y dydd, yn gorffen yn safle rhif 3 allan o 29 yn ei dosbarth. Llongyfarchiadau mawr iawn iddi! Fel arfer, mae’r gyrrwyr sy’n gorffen yn safle rhif 1, 2 a 3 yn cael sefyll ar podiwm i dderbyn eu gwobrau, ac roedd Rachel yn edrych mlaen yn fawr at gael gwneud hyn am y tro cyntaf yn ei gyrfa rasio. Ond, yn anffodus, ni chafodd Rachel wireddu ei breuddwyd, achos roedd hi’n rhy dywyll a gwlyb! Felly roedd rhaid mynd y tu mewn i’r clwb i dderbyn ei thlws a chael tynnu lluniau.

Diwrnod llwyddianus iawn i Rachel Owen a mini rasio Uned 5, a phob lwc a llwyddiant iddi yn 2006 gyda’r gyrru. Os am weld rhagor o luniau a chlipiau fideo, ewch i wefan www.dimegoch.co.uk/winterraceday2005

 

 

 


Hafan/Home